PAPUR I GRONFA DDATBLYGU PWYLLGOR MENTER A BUSNES CYMRU

 

Cyflwyniad

  1. Mae cael mynediad i gyllid allanol ar gyfer dechrau busnes a buddsoddi er mwyn sicrhau twf mewn BBaCh yn sylfaenol i dwf economaidd cynaliadwy, ond wedi'i gyfyngu'n sylweddol ers dechrau'r argyfwng ariannol.  Yn 2012, comisiynwyd gwaith gennyf i edrych ar sut y gall BBaCh yng Nghymru gael mynediad i gyllid.  O ganlyniad, trefnais astudiaeth ddichonoldeb o ran creu Cronfa Ddatblygu i Gymru. 

Ymarferoldeb creu Cronfa Ddatblygu i Gymru

  1. Cafodd y Panel a gynhaliodd yr Astudiaeth Ddichonoldeb ei gadeirio gan yr Athro Dylan Jones - Evans ac roeddwn yn falch o fod wedi denu nifer o arbenigwyr a roddodd gyngor ar lefel uchel mewn nifer o feysydd.  Hoffwn ddiolch iddynt unwaith yn rhagor am eu cyfraniadau unigol wrth gwblhau'r Astudiaeth. 
  2. Cyhoeddais Astudiaeth y Panel ar 10 Mawrth 2015.  Mae'n cynnig dadansoddiad manwl i edrych ar genhadaeth, swyddogaeth a gweithrediadau posibl Cronfa Ddatblygu.  Mae'n ystyried yr achos strategol a'r opsiynau i fynd i'r afael â'r bwlch cyllidoI, gan gynnig chwe dewis arall.   
  3. Prif egwyddor Cronfa Ddatblygu felly yw na ddylai ddisodli y sector preifat ond mynd i'r afael â methiant y farchnad i ddarparu cyllid i BBaCh.  Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus mae'n rhaid iddi ymwneud â'r sector preifat i sicrhau bod busnesau yn derbyn yr ateb mwyaf priodol o ran cyllid. 
  4. Mae'r Astudiaeth hefyd yn edrych ar yr angen am gysylltiadau agosach rhwng cynnig Llywodraeth Cymru o gymorth ariannol a'r cymorth busnes sydd ar gael, yn ogystal ag edrych sut i sicrhau lefelau uwch o gyllid o'r sector preifat.  Mae hyn yn cyd-fynd yn agos â chanfyddiadau gwaith Robert Lloyd Griffiths i gysoni'r cymorth ariannol a'r cymorth nad yw'n ariannol ar gyfer BBaChau. 

Datblygiadau Diweddaraf

6.    Fel y cyhoeddais yn yr Astudiaeth, anfonais gopi at Gadeirydd y Pwyllgor hwn a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid oherwydd ymholiad cynharach.  Rwy'n ymwybodol bod y Pwyllgor Cyllid wedi gofyn am gyfle i wahodd yr Athro Jones - Evans a Robert Lloyd Griffiths i fynychu un o'u sesiynau craffu yn y dyfodol. 

7.    Gwneuthum Ddatganiad Llafar yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Mawrth, yn gwahodd sylwadau gan yr Aelodau.  Roeddwn yn falch â lefel y diddordeb a'r cymorth ar draws y Siambr. 

8.    Rwy'n edrych ymlaen at fynychu'r Pwyllgor Menter a Busnes gyda'r Athro Jones- Evans a Robert Lloyd Griffiths ac at glywed safbwyntiau'r Aelodau yn fwy manwl.